Dyddiad yr Adroddiad

19/04/2024

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202400091

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd Pobl wedi ymdrin â’i chwynion am leithder a llwydni yn ei heiddo, na rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i Pobl ddelio â chŵyn Ms A ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi, ond ar ôl i’r Ombwdsmon gysylltu â Pobl fe ddywedodd ei fod yn bwriadu ymweld ag eiddo Ms X i drafod ei phryderon. Er hynny, dywedodd yr Ombwdsmon fod yr oedi wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Pobl i ymddiheuro i Ms X am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn ac am beidio â rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda hi, cynnig iawndal o £50 iddi a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos.