Cwynodd Mrs A am ymateb Pobl pan gododd faterion dro ar ôl tro am ei system wresogi, nad oedd wedi gweithio’n iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd fod Pobl wedi cytuno’n flaenorol i amnewid rhai o’r gwresogyddion nad oeddent yn gweithio, ond nad oeddent wedi gwneud hynny. Roedd hi wedi gwneud cwyn ffurfiol i Pobl ond nid oedd wedi derbyn ymateb.
Dywedodd Pobl ei fod ar hyn o bryd yn aros am ddyfynbris i amnewid y gwresogyddion. Roedd yn cydnabod bod cwyn ffurfiol Mrs A wedi dod i law ym mis Mehefin 2024, ond nad oedd wedi cael ateb. Felly, o fewn pythefnos, cytunodd Pobl i ddarparu ymateb ffurfiol i gŵyn Mrs A, gan gynnwys esboniad am yr oedi ac unrhyw ymddiheuriadau / iawndal yr oedd yn credu y gallai fod yn ddyledus.