Cwynodd Mrs A am y camau yr oedd Trivallis wedi’u cymryd mewn perthynas ag adroddiadau am ddifrod dŵr yn ei chartref.
Roedd Trivallis wedi nodi lleithder ychwanegol yn yr aer yng nghartref Mrs A. Penderfynodd fod hyn yn debygol o gael ei achosi gan y gofod oedd ei angen ar gyfer teclyn codi i mewn i’w hystafell ymolchi, a oedd yn caniatáu i anwedd dŵr fudo drwy ei chartref. Er bod Trivallis wedi gwneud rhywfaint o waith i leihau lefelau lleithder yn yr aer yng nghartref Mrs A, nid oedd wedi datrys y broblem ynghylch y gofod oedd ei angen ar gyfer y teclyn codi.
Cytunodd Trivallis i gwblhau gwaith i ystafell ymolchi Mrs A gyda’r bwriad o leihau faint o anwedd dŵr oedd yn mudo. Cytunodd i fonitro’r sefyllfa gyda Mrs A dros y 2 fis nesaf a gweithio gyda hi i ystyried opsiynau pellach pe bai angen.