Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Valleys To Coast Housing

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202400434

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Tai Cymoedd i’r Arfordir wedi methu ag ymateb i’w gŵyn ynghylch gollyngiad dŵr o fflat cyfagos sy’n achosi llwydni a lleithder yn ei eiddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi ac esgeulustod wedi bod gyda’r ymateb a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Gymdeithas i gytuno i gyhoeddi ei hymateb (cyn pen 3 wythnos), a ddylai amlinellu’r camau a gymerwyd hyd yma, y camau y bwriedir eu cymryd i drwsio’r gollyngiad dŵr, ac ymddiheuriad ac eglurhad ynghylch yr oedi.