Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Llifogydd a difrod llifogydd

Cyfeirnod Achos

202309798

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss J nad oedd wedi cael ymateb gan Gyngor Sir y Fflint i gŵyn a wnaeth am lifogydd y tu allan i’w chartref.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn ymateb i’r gŵyn. Roedd yn teimlo bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anhwylustod ychwanegol i Miss J. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss J o fewn pythefnos i ymddiheuro ac esbonio’r rhesymau dros yr oedi. Hefyd, cytunodd i gynnal ymweliad safle ac ymrwymo i ymateb i’r gŵyn o fewn 2 fis.