Dyddiad yr Adroddiad

21/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Mabwysiadu ffyrdd

Cyfeirnod Achos

202404343

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cofnodi ei gŵyn yn anghywir am y gwaith cynnal a chadw ar briffordd heb ei mabwysiadu sy’n eiddo i’r Cyngor, fel cais am wasanaeth.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â chofnodi ac ymateb i gŵyn Mr X yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.