Cwynodd Mr A fod ei blant wedi cael gwybodaeth anghywir am ddigwyddiadau a oedd wedi digwydd cyn iddynt gael eu rhoi mewn gofal a sut yr ymdriniwyd â’i gŵyn ddilynol gan Gyngor Abertawe (“y Cyngor”).
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gweithredu ar yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad ar gŵyn cam 2 yn llawn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr A o fewn 20 diwrnod gwaith, rhoi rhagor o wybodaeth iddo, ymddiheuro am beidio â darparu’r wybodaeth hon yn gynt, a thalu iawndal o £250 am yr amser a’r drafferth o orfod uwchgyfeirio ei gŵyn i’r Ombwdsmon.