Dyddiad yr Adroddiad

26/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202403107

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Gwasanaethau Cymdeithasol Plant y Cyngor wedi trefnu cyswllt â’i phlant ac nad oeddent wedi ymateb i’w chwynion. Cyfeiriodd at y trallod yr oedd hyn yn ei achosi iddi.

Cytunodd y Cyngor i ysgrifennu ymateb llawnach at Mrs A am y materion cyswllt. Dywedodd y byddai hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon eraill yr oedd Mrs A wedi’u codi mewn cwynion blaenorol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau yr oedd y Cyngor wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol a chafodd y mater ei setlo.