Dyddiad yr Adroddiad

26/04/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202309204

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B am y diffyg cefnogaeth a gafodd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pan oedd yn ofalwr maeth.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu dadansoddiad llawn o’r costau a gafodd Ms B fel gofalwr maeth, fel yr argymhellwyd gan Ymchwilydd Annibynnol cam 2. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd gytundeb y Cyngor y byddai’n anfon dadansoddiad at Mrs B o fewn 20 diwrnod gwaith o’r taliadau a gafodd am bob plentyn yr oedd wedi’i faethu. Pe bai’r Cyngor yn canfod diffyg yn yr arian a dalwyd i Ms B, cytunodd y byddai’n ystyried gwneud ad-daliad.