Dyddiad yr Adroddiad

05/02/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202307000

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y diffyg cyfathrebu, diweddariadau ac ymgysylltiad amserol gan wasanaethau orthodontig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) mewn perthynas â’i fab, Plentyn B. Cwestiynodd sut y gallai’r gwasanaethau orthodontydd fod wedi gwneud penderfyniadau am ofal deintyddol ei fab heb ei weld. Roedd Plentyn B wedi’i gyfeirio’n ôl i’r gymuned am adolygiad deintyddol arbenigol.

Fel rhan o’r setliad, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Mr A gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am atgyfeiriad Plentyn B a darparu gwybodaeth am y llwybr atgyfeirio. Gofynnwyd hefyd iddo gysylltu â deintydd Plentyn B am yr atgyfeiriad deintyddol arbenigol ac ystyried a oedd angen gwella dulliau cyfathrebu gydag ymarferwyr deintyddol atgyfeirio yn fwy eang am y llwybr atgyfeirio pe bai bwlch cyfathrebu’n cael ei nodi.