Dyddiad yr Adroddiad

09/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202205528

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn gan Mrs M am ofal orthodontig (mae orthodonteg yn gangen ddeintyddol arbenigol sy’n ymwneud â thrin afreoleidd-dra a datblygiad y dannedd, y genau a’r wyneb) ei mab, B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried yn benodol a oedd yr oedi cyn i B gael ei weld gan wasanaeth orthodontig y Bwrdd Iechyd yn afresymol.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod B wedi aros am fwy na’r amser a argymhellir rhwng atgyfeirio a thriniaeth i gael ei apwyntiad cyntaf fel claf allanol i drafod y driniaeth, roedd yr effaith ar B wedi’i lliniaru gan y ffaith bod y driniaeth sydd ei hangen arno (llawdriniaeth y genau) fel arfer yn cael ei gwneud pan fydd y genau wedi stopio tyfu. Ni fyddai’r math yma o lawdriniaeth yn cael ei gwneud nes iddo gyrraedd 18 oed (a dim ond yn ddiweddar y cyrhaeddodd yr oed hwnnw). Ar y sail hon, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y flaenoriaeth brysbennu ar gyfer yr atgyfeiriad yn briodol, nad oedd brys i B gael ei weld ar ôl yr atgyfeiriad o ystyried natur ac amserlen y driniaeth sy’n ofynnol, a bod yr amser aros o 3 blynedd yn briodol yn glinigol yn achos B. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.