Dyddiad yr Adroddiad

10/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202403453

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss G ei bod wedi bod yn aros am bum mlynedd i gael llawdriniaeth, ond roedd y Bwrdd Iechyd wedi dweud wrthi nad oedd bellach yn ffit i gael llawdriniaeth. Dywedodd Miss G fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi esboniad priodol iddi pam nad oedd yn ffit i gael llawdriniaeth. Cwynodd Miss G hefyd, pan oedd hi wedi mynd i apwyntiadau, nad oedd modd dod o hyd i’w chofnodion neu eu bod yn cynnwys gwybodaeth anghywir.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod Miss G wedi cael cynnig apwyntiad gydag ymgynghorydd i drafod ei hopsiynau triniaeth ac nad oedd unrhyw dystiolaeth o wybodaeth anghywir yn ei chofnodion. Yn ei ymateb i gŵyn Miss G, ni esboniodd y Bwrdd Iechyd sut na phryd y gwnaed y penderfyniad nad oedd yn ffit i gael llawdriniaeth. Nid oedd ychwaith yn egluro’n llawn sut yr oedd wedi dod i’r casgliad nad oedd ei chofnodion yn cynnwys gwybodaeth anghywir.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn pythefnos, y byddai’n ysgrifennu at Miss G yn egluro’r rhesymau pam nad yw’n ffit i gael llawdriniaeth a phryd / sut y daethpwyd i’r penderfyniad hwn, ynghyd ag esboniad pellach o’i barn ynghylch ei chofnodion meddygol.