Dyddiad yr Adroddiad

30/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202402126

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss T nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi’r driniaeth angenrheidiol i ddelio â’i phoen cronig.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i bryderon Miss T yn anffurfiol, na wnaeth uwchgyfeirio ei chŵyn yn gywir yn unol â’i phroses gwyno pan oedd Miss T yn dal yn anfodlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss T. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Miss T yn ymddiheuro am y methiant a ganfuwyd a rhoi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn chwe wythnos galendr, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.