Dyddiad yr Adroddiad

13/04/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202004109

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs M am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei merch, Ms D, gan Wasanaethau Iechyd Meddwl y Bwrdd Iechyd yn dilyn dau argyfwng seicotig acíwt. Cwynodd Mrs M, ar 20 Rhagfyr 2019:

1.Fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu i feddyg cymeradwy Adran 12 ymweld â Ms D gartref i gynnal Asesiad Deddf Iechyd Meddwl

2.Gwrthododd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy awdurdodi cais brys i dderbyn Ms D o dan Adran 4 o’r Deddf Iechyd Meddwl.

3.Roedd yn rhaid i Mrs M fynd â Ms D (mewn cyflwr o drallod difrifol) mewn car i’r ysbyty.

Cwynodd Mrs M hefyd, ar 23 Chwefror 2020:

4.Fod Mr a Mrs M wedi mynd â Ms D i’r ysbyty ond, gan nad oedd gwelyau ar gael, fod y teulu wedi gorfod treulio’r noson yn yr Adran Achosion Brys. Ni ddaeth clinigwyr at Ms D i weld sut oedd hi yn ystod y nos.

5.Amharwyd ar urddas Ms D pan oedd yn rhaid iddi gael asesiad iechyd meddwl yn ei phyjamas.

6.Cwynodd Mrs M, ar ôl i Ms D gael ei ryddhau, fod oedi hir cyn iddi gael ei rhoi ar restr aros am therapi seicolegol a chyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’w chwynion.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn 1. Er ei bod yn cydnabod bod prinder meddygon Adran 12 yn adlewyrchu prinder ar draws y GIG nad oedd wedi’i gyfyngu i’r Bwrdd Iechyd, canfu nad oedd unrhyw broses uwchgyfeirio systematig i geisio sicrhau meddyg Adran 12 ar gyfer Ms D. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn 2 ar y sail bod clinigwyr wedi gwneud ymgais resymol i roi blaenoriaeth i sicrhau ymweliad cartref gan feddyg Adran 12 (fel yr opsiwn gweithdrefnol a ffefrir sydd â’r risg leiaf). Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn 3 i’r graddau bod y methiant i sicrhau meddyg Adran 12 yn rhoi’r teulu yn y sefyllfa o orfod derbyn rhywfaint o risg er mwyn cael y gofal yr oedd ei angen ar Ms D. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn 4 yn rhannol. Canfu fod oedi wrth ddarparu gwely ar gyfer Ms D, unwaith eto, yn adlewyrchiad rhannol o brinder adnoddau sylfaenol o fewn ac ar draws Gwasanaethau Iechyd Meddwl y GIG. Fodd bynnag, canfu hefyd fod gwybodaeth bwysig wedi’i hepgor a allai, pe bai wedi’i darparu i’r teulu, fod wedi’i gwneud yn llai tebygol y byddent wedi parhau â’u cwyn, a’i huwchgyfeirio. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn 5 yn rhannol. Er nad oedd o’r farn bod y digwyddiad yn gyfystyr â thorachos difrifol o hawl Ms D i urddas a phreifatrwydd, gwahoddodd y Bwrdd Iechyd, serch hynny, i fyfyrio ar y mater hwn a chynigiodd y dylid cynnig ymddiheuriad. O ran cwyn 6, canfu’r Ombwdsmon fod arhosiad Ms D am therapi seicolegol, o dan yr amgylchiadau, yn rhesymol, ond bod nifer o ddiffygion yn ymwneud ag ymdrin â chwynion. Felly, cadarnhaodd y gŵyn hon yn rhannol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

•Ymddiheuro’n llawn i Mrs M am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad a gwneud taliad o £500 iddi. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd:

• Gadarnhau bod yr adroddiad wedi’i drafod o fewn ei Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl a’i dimau Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT), Datrys Argyfwng a Thriniaeth Gartref (CRHT) a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl (AMHP) perthnasol.

•Darparu tystiolaeth o’r chynlluniau a’r gwelliannau i wasanaethau (fel y cyfeirir atynt yn ei ohebiaeth) mewn perthynas â gweithredu strategaethau i fynd i’r afael â phrinder seiciatryddion hyfforddedig, seicotherapyddion cymeradwy Adran 12 a chlinigwyr iechyd meddwl eraill.
•Rhoi tystiolaeth i’r Ombwdsmon o ddatblygu polisi uwchgyfeirio mewn perthynas â rheoli cysylltiadau gyda meddygon cymeradwy Adran 12.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu’r argymhellion hyn.