Dyddiad yr Adroddiad

27/11/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202406333

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B fod Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei thynnu oddi ar ei rhestr cleifion ar ôl iddi godi pryderon am ffioedd deintyddol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y ffioedd deintyddol ar gyfer triniaeth breifat, felly maent y tu allan i’w gylch gwaith. Cyfeiriwyd Miss B at y Gwasanaeth Cwynion Deintyddol ar gyfer yr elfen hon o’i chŵyn. Yn ogystal, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi cyhoeddi ymateb llawn i gŵyn Miss B am ei benderfyniad i’w thynnu oddi ar ei restr cleifion, a bod ei gweithdrefn gwyno ar gyfer cleifion y GIG yn cynnwys gwybodaeth anghywir ac allan o ddyddiad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth i Miss B a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i gyhoeddi ymateb i gŵyn Miss B am ei benderfyniad i’w thynnu oddi ar ei restr cleifion, ac i ddiweddaru a chywiro ei weithdrefn gwyno o fewn 6 wythnos.