Cwynodd Ms A am ddarpariaeth meddyginiaeth hormonau i’w merch, Ms B, drwy’r meddyg teulu a’r Tîm Rhywedd Lleol yn ardal y Bwrdd Iechyd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd gan y Bwrdd Iechyd lwybr cyson ar hyn o bryd i gleifion rhywedd gael meddyginiaeth hormonau arbenigol, gyda monitro ac adolygu priodol. Roedd y Bwrdd Iechyd yn ymwybodol o’r materion sy’n ymwneud â’r gwasanaeth hwn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn chwe mis, y byddai trefniadau ar gyfer rhagnodi, monitro ac adolygu triniaeth hormonau (ar gyfer pob claf gwasanaeth rhywedd yn ardal y Bwrdd Iechyd) yn cael eu trosglwyddo i Dîm Rhywedd Lleol y Bwrdd Iechyd a’u darparu drwy glinigau iechyd rhywiol lleol. Yn y cyfamser, byddai’n parhau i roi’r feddyginiaeth angenrheidiol i Ms B drwy ei chlinig iechyd rhywiol lleol.