Dyddiad yr Adroddiad

05/28/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Meddyginiaeth a Dosbarthu presgripsiynau

Cyfeirnod Achos

202400150

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms W fod y Feddygfa wedi methu ymateb i’w chŵyn am bresgripsiwn coll ei gŵr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod methiant wedi bod gan y Feddygfa i ymateb i’r gŵyn a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms W. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ymddiheuro i Ms W a rhoi ymateb i’w chwyn, sy’n cynnwys eglurhad am y methiant, o fewn pythefnos.