Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam yn yr ysbyty. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr ymateb i’r gŵyn a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd wedi ystyried yn llawn bob agwedd ar bryderon Ms A yn unol â’r canllawiau cwyno perthnasol. Roedd Ms A hefyd wedi nodi yr hoffai gyfarfod â staff perthnasol yn y Bwrdd Iechyd i drafod ei phryderon, ac ym marn yr Ombwdsmon byddai’n briodol gwneud hyn cyn unrhyw ymchwiliad gan yr Ombwdsmon.
Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i’r gŵyn i ystyried diffyg gofal mewn perthynas â thorasgwrn mam Ms A, ac i amlinellu ymhellach y penderfyniad rhwymedigaeth gymhwyso ynglŷn â’r feddyginiaeth yr oedd hi wedi’i cholli, ac i gynnig cyfarfod iddi â staff perthnasol i drafod y gŵyn, a hynny i ddigwydd o fewn 30 diwrnod gwaith.