Cwynodd Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi presgripsiwn iddo o feddyginiaeth newydd ei chymeradwyo o’r enw Fampridine, cyffur a ddefnyddir i wella gallu i gerdded mewn cleifion gyda pharlys ymledol. Dywedodd Mr X fod hyn wedi arwain ato’n talu am bresgripsiynau preifat pan ddylai fod wedi derbyn y driniaeth gan y GIG.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno ymateb “Gwneud Pethau’n Iawn” (PTR) i gŵyn Mr X. Fodd bynnag, ers cyflwyno’r gŵyn, roedd Mr X wedi cael ei weld yng nghlinig Fampridrine newydd y Bwrdd Iechyd, ac mae Mr X bellach yn derbyn Fampridine ar bresgripsiwn y GIG.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddatrysiad cynnar o gŵyn Mr X oedd yn cynnwys adolygu cŵyn Mr X a chyflwyno ymateb PTR ynghylch ei bryderon gweddilliol o fewn 4 wythnos o’r penderfyniad datrysiad cynnar hwn.