Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Mynwentydd ac Amlosgfeydd

Cyfeirnod Achos

202402708

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs G fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi methu â rhoi ad-daliad yr oedd wedi addo ei roi iddi yn dilyn problem gyda’i Adran Mynwentydd.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs G wedi cael addewid o ad-daliad fwy na 9 mis yn ôl ond nad oedd wedi’i roi iddi. Roedd Mrs G wedi mynd ar ôl y Cyngor am yr ad-daliad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs G a phenderfynodd setlo’r gŵyn.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs G am yr oedi cyn rhoi’r ad-daliad, i roi’r ad-daliad iddi, ac i gynnig talu iawndal pellach o £50 iddi o fewn 4 wythnos. Cadarnhaodd y Cyngor fod yr ad-daliad wedi’i wneud ar ôl i’r Ombwdsmon gysylltu â nhw.