Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ystyried yr holl ffactorau perthnasol cyn caniatáu cais gan un aelod o’r teulu am Hawliau Claddu Unigryw ar gyfer llain gladdu deuluol. Cwynodd Mr X ymhellach fod y Cyngor hefyd wedi camarwain Mr a Mrs X ynglŷn â’r sefyllfa, ei fod heb esbonio ei benderfyniad yn iawn, a’i fod wedi anwybyddu dymuniadau aelodau eraill o’r teulu.
Nododd yr Ombwdsmon amgylchiadau annifyr y sefyllfa. Fodd bynnag, ni chanfu’r ymchwiliad ddim camweinyddu ar ran y Cyngor mewn perthynas â’r wybodaeth roedd wedi’i rhoi i’r teulu, a oedd yn gywir ar y pryd. Roedd y penderfyniad i ganiatáu’r cais Hawliau Claddu Unigryw yn un roedd gan y Cyngor hawl i’w wneud yn ôl ei ddisgresiwn, ac nid oedd ei benderfyniad yn afresymol ar sail y dystiolaeth a roddwyd iddo. Nododd yr Ombwdsmon y gallai’r Cyngor fod wedi esbonio’n gliriach (a defnyddio llai o iaith gyfreithiol ffurfiol) i’r teulu pam nad oedd yn gallu gwrthod y cais. Fodd bynnag, ni fyddai’n gymesur i’r Ombwdsmon barhau ag ymchwiliad yn seiliedig ar y pwynt hwn yn unig.