Cwynodd Miss B ei bod yn anhapus â’r ffordd yr ymdriniodd Cyngor Caerdydd â’i hymholiadau a’i phryderon ynghylch materion a thaliadau’n ymwneud â thrwydded parcio.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn briodol i’r materion a godwyd gan Miss B. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss B, i ddarparu ymateb i’w chŵyn ac i ystyried priodoldeb yr Hysbysiadau Taliadau Parcio a gyhoeddwyd o fewn cyfnod penodol. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r cam gweithredu o fewn 20 diwrnod gwaith.