Cwynodd Mr Q nad yw Cyngor Caerdydd wedi datrys y parcio anghyfreithlon ar ei stryd sy’n achosi anhwylustod iddo wrth iddo yrru i lawr ei stryd a dod o hyd i le parcio.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr Q wedi codi tair cwyn ffurfiol ers mis Mehefin 2024, ond bod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’r rhain yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr Q. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr Q, o fewn 3 wythnos, yn unol â’r broses i egluro pa gamau y mae wedi’u cymryd hyd yma, a’r camau ychwanegol y mae’n bwriadu eu cymryd i ddatrys y materion.