Cwynodd Mr B nad oedd Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi ymateb i’w gŵyn ynglŷn ag arwyneb anwastad a thoredig ar hyd un o lwybrau beicio a cherdded y Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon, er nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am y rhan o’r llwybr y gwnaed cwyn yn ei chylch, nid oedd wedi hysbysu Mr B am hyn, nac eu bod wedi cyfeirio’r mater i’r corff cyfrifol.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac er mwyn datrys cwyn Mr B, cytunodd i ysgrifennu llythyr ymddiheuro o fewn 20 diwrnod gwaith am beidio â’i hysbysu. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad i’r mater.