Cwynodd Ms M fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi newid y broses o gasglu gwastraff, o finiau i fagiau.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms M wedi cyflwyno cwyn drwy’r ffurflen adborth ar-lein, ond bod y Cyngor wedi ymdrin â hyn fel cais am wasanaeth. Methodd â rhoi gwybod i Ms M nad oedd yn cael ei thrin drwy’r broses gwyno. Achosodd hyn rwystredigaeth i Ms M. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms M, o fewn 1 wythnos, i ymddiheuro am fethu â rhoi gwybod iddi sut yr oedd yn ymdrin â’r ffurflen adborth, ac i’w chofnodi’n ffurfiol fel cwyn ffurfiol.