Dyddiad yr Adroddiad

10/01/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Rheoli Plâu

Cyfeirnod Achos

202306809

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Cyngor Caerdydd wedi methu â chael gwared â phla o lygod mawr yn ei gartref; roedd yn credu mai’r tenantiaid yn yr eiddo drws nesaf oedd wedi achosi hyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi’n sylweddol cyn unioni’r broblem a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais gan yr Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr B o fewn 4 wythnos a chynnig talu £100 o iawndal iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd i gwyno wrth yr Ombwdsmon. Cytunodd y Cyngor hefyd y byddant yn esbonio pa waith y byddant yn ei wneud i sicrhau bod y llygod mawr wedi mynd, yn trwsio unrhyw ddifrod a achoswyd ac yn cadarnhau pa fesurau y byddant yn eu cymryd i leihau’r risg y gallai’r broblem ddigwydd eto.