Cwynodd Mr J nad oedd Pobl wedi ymateb i gŵyn yn ymwneud â phla llygod mawr yn yr ardal biniau cymunedol. Dywedodd Mr J fod y llygod mawr yn mynd i mewn i’w ardd ac yn difrodi ei eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi cyfathrebu â Mr J am ei bryderon, ei bod wedi methu ag egluro na chynnig i gyfeirio ei bryderon at ei phroses gwyno ffurfiol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr J. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas i roi ymateb i gŵyn i Mr J o fewn 3 wythnos. Dylai’r ymateb gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am y camreoli a chyfathrebu gwael. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i gynnig taliad iawndal o £50 i Mr J i gydnabod ei amser a’i drafferth yn cysylltu â’r Ombwdsmon.