Cwynodd Miss A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) wedi rhoi trwydded parcio iddi ar gais ond wedyn wedi ei diddymu. Roedd ei heiddo yn wynebu 2 ffordd – Stryd Y a Ffordd Z. Roedd y diddymiad wedi achosi gofid iddi. Roedd hi eisiau i’r drwydded gael ei hadfer.
Wrth gynnal ymholiadau, cadarnhaodd y Cyngor ei fod wedi cyhoeddi’r drwydded mewn camgymeriad. Nid oedd gan eiddo Miss A gyfeiriad post cofrestredig ar gyfer Stryd Y, sef y ffordd berthnasol sydd wedi’i chynnwys mewn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sy’n rheoli trwyddedau parcio. Cyfeiriad swyddogol yr eiddo oedd Ffordd Z. Roedd wedi ad-dalu ffi ymgeisio Miss Y. Ni wnaeth yr Ombwdsmon ymchwilio i’r gŵyn gan nad oedd ganddo unrhyw bŵer i adfer y drwydded fel y gofynnodd Miss Y gan na all newid TRO. Fodd bynnag, i gydnabod y camgymeriad wrth roi’r drwydded i Miss Y, gan godi ei disgwyliad bod ganddi hawl iddi, canfu’r Ombwdsmon gamweinyddu. Gofynnodd am gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n ffurfiol i Miss Y am y camgymeriad hwnnw (o fewn 20 diwrnod gwaith). Cafodd y gŵyn ei setlo ar y sail hon fel dewis arall yn lle ymchwiliad.