Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymgynghori’n briodol â thrigolion lleol cyn gosod cyrbau cyflymder yn yr ardal ac nad oedd wedi darparu ymateb llawn i’w gŵyn.
Yn ôl asesiad yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr A, nid oedd wedi mynd i’r afael â’r materion penodol a gododd Mr A nac wedi ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnal ymchwiliad i’r pryderon a godwyd gan Mr A, yn ymwneud yn benodol â gosod cyrbau cyflymder yn ei ardal. Cytunodd hefyd i ddarparu ymateb cynhwysfawr, yn unol â phroses Cwynion Corfforaethol y Cyngor, gan amlinellu canfyddiadau’r ymchwiliad. Bydd yr ymateb yn cynnwys manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda thrigolion lleol cyn gosod cyrbau cyflymder. Yn ogystal, bydd yr ymateb yn gynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac am beidio â rhoi ymateb cynhwysfawr i Mr A i’w bryderon penodol. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r ymchwiliad a chyflwyno ymateb i Mr A o fewn 3 wythnos.