Dyddiad yr Adroddiad

03/10/2024

Achos yn Erbyn

Llywodraeth Cymru

Pwnc

Rheoliadau a rheolaeth traffig (twmpathau cyflymder a.y.y.b.)

Cyfeirnod Achos

202404057

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Llywodraeth Cymru wedi methu â datrys goryrru gormodol mewn parth 20 milltir yr awr oherwydd diffyg arwyddion. Yn ogystal, cwynodd Mr X am y diffyg Saesneg clir yn yr ymateb i’r gŵyn.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod yr ymateb i’r gŵyn yn briodol mewn perthynas â’i benderfyniad strategol, nad oedd yn glir ac nad oedd wedi’i ysgrifennu mewn Saesneg clir. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn, mewn Saesneg clir, o fewn pythefnos.