Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w gŵyn am yr oedi cyn rhoi triniaeth orthopedeg i’w wraig ym mis Hydref 2023.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau rheolaidd i’r achwynydd, ei fod wedi methu â darparu’r ymateb i’r gŵyn fwy na 6 mis ar ôl iddo dderbyn y gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr H a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi ac esbonio’r rhesymau amdano ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.