Cwynodd Mr D nad oedd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn wedi delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ei gymdogion, a arweiniodd at gynnau tân bwriadol ac achosi difrod i’w gartref.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi ymateb i gŵyn Mr D ond mai dim ond canolbwyntio ar y difrod i eiddo Mr D y gwnaeth ac nad oedd wedi cydnabod nac ymateb i’r pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mr D. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Mr D, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am yr esgeulustod a mynd i’r afael â’r pryderon.