Cwynodd Ms S nad oedd wedi cael ymateb i bryderon a godwyd ganddi’n ffurfiol gyda Chymdeithas Tai Hafod ym mis Rhagfyr 2023. Roedd ei phryderon yn cynnwys materion lleithder ac asbestos yn ei chartref.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi diangen wedi bod cyn ymateb i bryderon Ms S a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas y byddai’n talu £150 i Ms S am yr amser a’r drafferth a achoswyd i leisio ei phryderon. Mae’r Gymdeithas wedi cysylltu â Ms S i ddechrau’r gwaith sy’n angenrheidiol i ddatrys ei phryderon.