Cwynodd Ms E bod Cymdeithas Dai Hafod wedi methu adnewyddu ei drws ffrynt a’r ffrâm oedd wedi pydru ac roedd wedi methu ymateb i’w chwyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas wedi cynhyrchu’r gŵyn ffurfiol a godwyd drwy ei ap symudol Hafod 24/7. Canfu fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Ms E.
Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad. Gofynnodd a derbyniodd gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Ms E am fethiant y system, esbonio’r digwyddiadau sydd wedi digwydd ers ei chais gwreiddiol a’r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd yn awr i ddatrys ei phryderon. Cytunwyd i ymgymryd â’r camau hynny o fewn pythefnos.