Dyddiad yr Adroddiad

05/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202400137

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss Y fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaeth ynghylch asbestos yn ystafell wely ei mab.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi cynnal ymchwiliad Cam 1 ond nad oedd wedi rhoi gwybod i Miss Y am ei hawl i uwchgyfeirio i Gam 2. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss Y. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss Y, o fewn 7 diwrnod, i ymddiheuro am fethu â rhoi gwybod iddi am ei hawl i uwchgyfeirio’r gŵyn ar gyfer ymchwiliad Cam 2.