Cwynodd Ms A ei bod yn anfodlon ar ymateb Cyngor Caerdydd i’w chwyn am bryfed yn ei heidio oherwydd biniau tu allan, materion yn ymwneud â swyddogion tai, ac addasiadau rhesymol o ran cyfathrebu.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi datrys y broblem â phryfed. Nid oedd perthynas Ms A â swyddogion tai bellach yn bositif ac nid oedd yn glir a gytunwyd yn ffurfiol ar addasiadau rhesymol o ran cyfathrebu.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol cyn pen 10 diwrnod gwaith, sef: ysgrifennu at Ms A i gadarnhau addasiadau rhesymol, neilltuo swyddog tai newydd a threfnu i osod sgriniau rhag pryfed.