Dyddiad yr Adroddiad

15/09/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202302069

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B oherwydd ei fod yn anhapus ynghylch y ffaith nad yw ond yn cael cysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) rhwng 10:00 a 12:00 ar ddydd Iau. Dywedodd nad oedd ei weithiwr cymdeithasol yn gweithio bryd hynny. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi anfon llythyr ato nad oedd mewn fformat print bras.

Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw gamweinyddu o ran oriau cyswllt a ganiateir Mr B, ac nid oes ganddo weithiwr cymdeithasol na mynediad at ofal cymdeithasol. Dywedodd y Cyngor ei fod yn gallu gwneud hunanatgyfeiriad ar gyfer asesiad mewn perthynas â’r ddarpariaeth hon. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod adran gwynion y Cyngor wedi anfon llythyr nad oedd mewn print bras at Mr B, yn ôl y gofyn.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr B ac i roi marciwr ar holl systemau’r Cyngor er mwyn sicrhau bod pob gohebiaeth sy’n cael ei hanfon at Mr B mewn print bras. Cytunodd y Cyngor i roi’r camau hyn ar waith cyn pen 10 diwrnod gwaith.