Cwynodd Ms C a Mr H nad oedd y Cyngor wedi ateb cwyn a godwyd ganddynt ar ôl adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fe wnaethant nodi bod y cyfathrebu â nhw yn wael, bod oedi wrth ymateb ac nad oedd eu cais am ymweliad i’r cartref wedi cael sylw priodol. Dywedodd Ms C a Mr H hefyd nad oedd y Cyngor wedi egluro pam ei fod wedi penderfynu na ellid cymryd unrhyw gamau, er bod y Cyngor wedi cymryd camau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol tebyg 8 mis ynghynt.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi nodi nac wedi mynd i’r afael â’r rhesymau dros yr oedi wrth ymateb i Ms C a Mr H. Gwrthodwyd ymweliad i’r cartref heb unrhyw esboniad clir ac ni wnaed unrhyw ymgais i egluro eu pryderon na darparu ffordd arall ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ar ffurf copi caled. Roedd yn ymddangos bod dull y Cyngor hefyd yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y gallai Ms C fod wedi bod yn ei wneud, yn hytrach nag edrych â oedd tystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac a oedd yn bodloni’r trothwy i’r Cyngor weithredu yn ei gylch. Dywedodd y Cyngor hefyd na fyddai’r adroddiad diweddaraf yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond roedd hyn yn ymddangos yn anghyson o ystyried bod materion tebyg wedi cael sylw yn 2021.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms C a Mr H, rhoi sicrwydd bod y rhesymau dros yr oedi wrth gyfathrebu wedi cael sylw, a threfnu ymweliad i’r cartref. Cytunodd hefyd i ysgrifennu at Ms C a Mr H i gadarnhau canlyniad yr ymweliad hwnnw i’r cartref, gan gyfeirio’n benodol at y dystiolaeth copi caled sydd ganddynt, safbwynt y Cyngor ar yr hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan y Cyngor mewn perthynas â materion y maent yn adrodd amdanynt neu unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Cytunodd i gwblhau’r camau hyn o fewn 6 wythnos.