Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Sir Penfro wedi cyfathrebu ag ef ynghylch ei gŵyn yn ymwneud â gwaith atgyweirio yn ei eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Cyngor ymateb, a oedd yn bennaf oherwydd problemau o ran dod o hyd i Ymchwilydd annibynnol i gynnal ymchwiliad cam 2. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi mwy o rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr X o fewn pythefnos i roi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn penodi ymchwilydd annibynnol ac am ei amser a’r drafferth o orfod cysylltu â’r Ombwdsmon. Cytunodd y Cyngor hefyd i benodi ymchwilydd annibynnol o fewn 6 wythnos i gynnal ymchwiliad Cam 2 yn unol â’i weithdrefn gwyno ac, wedi hynny, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X bob mis nes bydd yr ymateb Cam 2 yn cael ei gyhoeddi.