Dyddiad yr Adroddiad

19/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202106154

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Miss X am y ffordd yr ymatebodd y Cyngor i adroddiadau am ddŵr yn gollwng yn ei fflat sy’n eiddo i’r Cyngor ym mis Tachwedd 2020.

Ar ôl dechrau ymchwiliad yr Ombwdsmon, cyflwynodd y Cyngor gynnig i ddelio â chwyn Miss X. Yng ngoleuni canlyniadau posibl yr ymchwiliad, penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol cloi ymchwiliad Miss X drwy ei derfynu oherwydd y camau a gynigiodd y Cyngor ac y cytunodd Miss X y byddent yn setlo ei chwyn.

Cytunodd y Cyngor i:
a) Dalu iawndal o £500 am yr anghyfleustra a achoswyd.
b) Talu iawndal o £500 fel tâl at gostau symud Miss X a charpedu hefyd.

Ystyriai’r Ombwdsmon fod y camau y dywedodd y Cyngor y byddai’n eu cymryd yn ganlyniad rhesymol a chymesur.