Dyddiad yr Adroddiad

04/15/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202310242

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B fod Tai Cymoedd i’r Arfordir wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn am waith atgyweirio tai, a wnaeth iddo ym mis Medi 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi cofnodi cwyn, nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn ac nad oedd yn bwriadu gwneud hynny nes bod yr holl waith atgyweirio tai wedi’i gwblhau. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Miss B i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn, cynnig iawndal o £75 iddi am yr amser a’r anghyfleustra o godi ei chŵyn â’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.