Cwynodd Miss A am yr oedi gan Gymdeithas Gogledd Cymru (“NWH”) yn gwneud gwaith trwsio brys i’w heiddo. Cwynodd hefyd fod NHW yna wedi gofyn i aelod o staff, rhywun a gwynodd amdanynt yn ddiweddar, i oruchwylio’r gwaith trwsio.
Casglodd yr Ombwdsmon fod cais Miss A i wneud y gwaith trwsio wedi’i gategoreiddio’n anghywir fel difrys, pryd y dylai fod wedi bod yn flaenoriaeth. Roedd hyn wedi achosi oedi o 4-5 mis cyn gwneud y gwaith trwsio. Casglodd hefyd y gofynnwyd wedyn i aelod o staff, sef y person oedd yn destun cwyn Miss A am ei ymddygiad, oruchwylio’r gwaith trwsio gan achosi poen meddwl i Miss A.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i NHW a gytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i dalu £250 i Miss A i gydnabod yr oedi cyn ymateb i’w chais i wneud gwaith trwsio, ymddiheuro’n ysgrifenedig wrthi a thalu £125 am ofyn i aelod o staff, a oedd yn destun cwyn gan Miss A, oruchwylio’r gwaith trwsio.