Cwynodd Ms E fod Trivallis wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ar 22 Mawrth 2024.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi cyfathrebu â Ms E nad oedd yn cyfathrebu’n glir, ac nad oedd wedi rheoli ei disgwyliadau’n briodol mewn perthynas â’r materion sylweddol a gododd. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms E. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig, o fewn pythefnos, am ansawdd ei hymatebion ac i gynnig £50 am ei hamser a’i thrafferth.