Cwynodd Ms X am niwsans sŵn mewn eiddo cyfagos a oedd yn eiddo i’r Gymdeithas, ac nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i’w chŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am nad oedd Ms X wedi cael ymateb ffurfiol i’w chŵyn ac am ei bod wedi profi anghyfleustra oherwydd gweithredoedd y Gymdeithas. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas i roi ymateb ffurfiol i Ms X yn achos ei chŵyn, er bod camau wedi’u cymryd erbyn iddo gwblhau ei ymholiadau.