Cwynodd Mrs N am hawl ei mab i gludiant ysgol gan y Cyngor, yn benodol, a oedd y penderfyniad a wnaed ynghylch peidio â chael hawl i gludiant ysgol am ddim yn unol â’r canllawiau, y polisïau a’r ddeddfwriaeth berthnasol, ac a oedd yr wybodaeth ynghylch hawl y plant yn ei sefyllfa (a ddewisodd ysgol o’r tu allan i’r dalgylch ar y sail y byddai’n dod yn ysgol y dalgylch yn fuan ar gyfer ei gyfeiriad) i gludiant ysgol am ddim wedi cael ei chyfleu’n ddigonol ac yn briodol. Cwynodd hefyd nad oedd yr wybodaeth am y dewis o brynu llefydd ar gludiant ysgol yn cael ei chyfathrebu’n glir bob blwyddyn, ac am y ffordd roedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gweithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gan fod mab Mrs N wedi cael cynnig lle mewn ysgol agosach, ac felly nid oedd yn rhaid i’r Cyngor ddarparu cludiant i’r ysgol o’i ddewis. Cadarnhawyd yr elfen hon o’r gwyn. Canfu, er bod y Cyngor wedi darparu gwybodaeth am y materion a godwyd, nad oedd rhywfaint o hyn, yn enwedig o ran sut y diffinnir ysgol ddalgylch plentyn, a’r hyn a ddigwyddodd o ran hawl i drafnidiaeth pan newidiodd dalgylch, yn gwbl glir. Roedd o’r farn, pe bai’r wybodaeth wedi bod yn fwy penodol, er na fyddai wedi newid canlyniad cwyn Mrs N, y gallai fod wedi golygu na fyddai wedi bod angen iddi fynd drwy’r broses gwyno lawn. Gan fod hyn yn anghyfiawnder iddi, dyfarnodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn hon wedi ei chyfiawnhau’n rhannol. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd y ffurflen i brynu tocynnau bws yn nodi’n benodol bod yn rhaid ail-ymgeisio am docyn bob blwyddyn ac nad oedd yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac y gallai’r ffordd yr ymdriniwyd â chwynion Mrs N fod wedi bod yn well. Gan hynny, cadarnhawyd y cwynion hyn.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs N am y materion a nodwyd a chynnig taliad o £250 iddi i gydnabod ei hamser a’i thrafferth wrth wneud y cwynion, a’r gwahanol elfennau o gyfathrebu aneglur a ganfuwyd. Cytunodd hefyd i ddiweddaru’r polisïau a’r canllawiau perthnasol, gan gynnwys ei ffurflen gais am docyn bws, ei bolisi teithwyr sy’n ddysgwyr, a’r holl ddogfennau perthnasol ynghylch cludiant i’r ysgol a derbyn, er mwyn sicrhau cysondeb, eglurder a chywirdeb y geiriad mewn perthynas â phrynu tocynnau bws, ac ardaloedd dalgylch ysgolion a’r hawl i gael cludiant.