Dyddiad yr Adroddiad

14/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200690

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd cwyn Mr A yn canolbwyntio ar y gofal a gafodd ei ddiweddar dad a’r dulliau rheoli pan oedd yn glaf mewnol yn yr ysbyty, gan gynnwys rheoli’r clwyfau a oedd wedi datblygu rhwng bodiau ei draed.
O ran rheoli clwyfau/briwiau gorwedd, roedd yr Ombwdsmon wedi nodi meysydd, yn enwedig o ran dogfennau, lle’r oedd diffygion yn amlwg a lle gellid gwneud gwelliannau.

Fel rhan o setlo cwyn Mr A, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd nifer o gamau gan gynnwys ymddiheuro i Mr A a’r teulu am y methiannau a nodwyd. Gofynnwyd i’r Bwrdd hefyd sicrhau bod siartiau asesu clwyfau yn nodi’n glir pob clwyf sy’n cael ei reoli a bod unrhyw drafodaeth/cynllun a rhesymeg ynghylch rheoli hyfywedd meinwe yn cael eu cofnodi yng nghofnodion cleifion. Yn olaf, dylai’r Bwrdd Iechyd sicrhau bod unrhyw ddogfennau rhyddhau yn cyfeirio at reoli a chynllunio ar gyfer unrhyw glwyfau a nodwyd.