Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr, Mr A, ym mis Chwefror 2022. Roedd Mrs A wedi gwneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd ac roeddent wedi darparu ymateb. Roedd yr ymateb hwnnw i’r gŵyn, ynghyd â’r cofnodion clinigol, yn codi rhai cwestiynau pellach a godwyd mewn ail gŵyn ym mis Hydref 2022. Cyflwynodd Mrs A gŵyn bellach ei bod wedi derbyn neges e-bost a oedd wedi’i chyfeirio at ei diweddar ŵr ac roedd negeseuon e-bost wedi’u hanfon i’w gyfeiriad e-bost, a oedd wedi achosi gofid iddi.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb priodol i’r gŵyn gyntaf, ond nad oedd wedi darparu ymateb amserol a phriodol yn unol â’r egwyddorion cyffredinol a nodir yn y Rheoliadau Gweithio i Wella, am na ddarparwyd ymateb ffurfiol i’r ail gŵyn. Canfu’r Ombwdsmon hefyd, er ei bod yn ymddangos bod y negeseuon e-bost y cwynwyd amdanynt wedi’u hanfon mewn camgymeriad, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â Mrs A nac wedi ymddiheuro am hyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs A, o fewn 1 mis, am y negeseuon e-bost a oedd wedi’u cyfeirio a’u hanfon i gyfeiriad e-bost ei diweddar ŵr, ac i gynnal adolygiad o’i brosesau mewnol er mwyn atal hyn rhag digwydd eto. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd, i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i gŵyn Mrs A, o fewn 2 fis, a fyddai’n mynd i’r afael â’r pryderon eraill a gyflwynwyd i’r Bwrdd Iechyd ac a godwyd yn ei chwyn i’r Ombwdsmon.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam gweithredu uchod yn rhesymol er mwyn datrys cwyn Mrs A.