Cwynodd Mr M fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ynghylch rhyddhau’n gynnar heb ôl-ofal digonol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi trin y gŵyn fel datrysiad cynnar yn hytrach na chŵyn ffurfiol. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mr M.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r mater heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gofnodi’r pryderon fel cŵyn ffurfiol ac i gyhoeddi llythyr cydnabod o fewn 5 diwrnod gwaith.