Cwynodd Mrs X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud diagnosis o sarcoma ei gŵr (“Mr X”) (sarcomas yw grŵp o ganserau prin sy’n effeithio ar y meinweoedd sy’n cysylltu, yn cynnal ac yn amgylchynu organau a strwythurau eraill y corff) yn ystod ei ymweliad â’r Adran Achosion Brys ar 2 Ionawr 2018, wedi rhyddhau Mr X yn amhriodol ar 14 Chwefror, wedi methu gweithredu atgyfeiriad Mr X yn briodol ar ôl cynnal biopsïau ar 14 Chwefror, wedi methu cyflymu asesiad ffisiotherapi Mr X ac wedi methu ymateb i’w chŵyn mewn modd amserol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y modd y rheolwyd Mr X yn yr Adran Achosion Brys yn rhesymol ond y gellid bod wedi gwneud mwy i asesu’r tebygolrwydd bod ei Lymffoma Hodgkin wedi dod i’r amlwg eto. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn ei bolisi rhyddhau ei hun pan ddychwelodd Mr X adref a dylid bod wedi gwneud mwy i gynnwys Mrs X yn y gwaith cynllunio. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod cadw cofnodion gwael yn golygu ei bod yn amhosibl cysoni cofnod Mrs X o driniaeth ffisiotherapi ei gŵr â’r hyn a ddywedwyd yn y cofnodion. Cafodd yr agweddau hyn ar y gŵyn eu cadarnhau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs X ynghylch atgyfeiriad Mr X ar ôl biopsi gan ei fod yn fodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau priodol i sicrhau bod yr atgyfeiriad yn cael blaenoriaeth fel mater brys. Yn olaf, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod cwyn Mrs X yn gymhleth a bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith niweidiol ar y gallu i ddelio â chwynion, ac na ellid bod wedi rhagweld hynny’n rhesymol. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis, gan ymddiheuro i Mrs X am y methiannau a nodwyd, gwneud taliad iawndal o £250 am yr ansicrwydd a’r gofid a achoswyd, ac atgoffa’r staff o bwysigrwydd ystyried achosion o Lymffoma Hodgkin mewn cleifion sy’n gwella ers diagnosis o ganser. O fewn 3 mis, dylai’r Bwrdd Iechyd rannu’r adroddiad â staff clinigol perthnasol a chynnal archwiliad o gofnodion ffisiotherapi i fonitro cywirdeb.