Cwynodd Mrs A wrth Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan am ei benderfyniad i ryddhau ei thad o’r ysbyty heb ymchwilio’n drylwyr i’w galon. Dywedodd Mrs A fod ei thad wedi bod gartref am 3-4 awr cyn ei fod wedi gorfod mynd i’r ysbyty eto mewn ambiwlans. Yn anffodus, bu farw tad Mrs A o drawiad ar y galon ar ôl cael ei dderbyn yn yr ysbyty yr ail dro.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi anfon ei ymateb i’r gŵyn at Mrs A, ond ei bod yn dal yn anfodlon ar ôl iddi ei dderbyn. Er mwyn datrys ei chŵyn, roedd Mrs A yn gofyn am gyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd i ganfod beth aeth o’i le.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mrs A i drefnu cyfarfod i drafod ei chŵyn, o fewn 20 diwrnod gwaith.